Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio gyda theuluoedd bregus roedd Tony Foulkeswedi argyhoeddi ei fod eisiau cynnig cartref diogel a llawn cariad i blant mewn gofal.
Wrth i’w ymddeoliad cynnar nesáu, fe berswadiodd Tony ei wraig Cathie y dylent ddechrau maethu gyda Barnardo's Cymru. Mae’r pâr wedi cael profiad boddhaol iawn ac maent nawr yn cefnogi ymgyrch yr elusen (Medi 16 i 22) i recriwtio mwy o rieni maeth yng Nghymru gan fod gwir angen amdanynt.

Yn ystod y naw mlynedd diwethaf, mae Tony, 66 a Cathie, 60 o Abergele wedi croesawu pump o blant i’w cartref. Roedd y ddau gyntaf ar gyfer gofal seibiant a’r plant eraill ar leoliad hirdymor. Dywedodd, “Mae’n gwbl wych eu gweld nhw’n blodeuo.”
Mae nifer y plant sydd mewn gofal maeth yng Nghymru wedi cynyddu yn fwy na thraean i 4,700 yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae Barnardo's Cymru yn chwilio am amrywiaeth eang o ofalwyr i ddiwallu’r galw sy’n cynyddu am rieni maeth.
Nid yw’r elusen yn eithrio unrhyw un rhag cael eu hystyried ar sail statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd na statws cyflogaeth. Nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer bod yn ofalwr maeth ac mae Barnardo’s Cymru yn awyddus i siarad â phobl hŷn gyda phrofiad bywyd, p’un a ydynt yn rhieni eu hunain ai peidio.
Nid oedd gan Cathie blant ei hun, er hynny mae hi wedi treulio llawer o amser gyda phlant ei theulu, ei ffrindiau a'r plant yn y Cadetiaid Awyr. Mae gan Tony bedwar o blant o berthynas flaenorol. Roedd Tony wedi gweithio gyda phlant ag anghenion arbennig ac yn y maes amddiffyn plant.
Mae Cathie a Tony yn credu bod maethu yn newid bywydau’r plant sy’n cael eu maethu â’u bywydau nhw eu hunain.
Rydym ni wrth ein boddau. Rydym yn trin y plant fel y byddem yn trin ein plant ein hunain ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw ffynnu ac i ddod yn eu blaenau. Mae gen i 7 o wyrion ac wyresau ac mae pob un yn integreiddio’n dda iawn.
Tony
“Gwnaeth un dyn ifanc sydd newydd ein gadael yn dda iawn yn ei arholiadau ac rydym yn hynod o falch ohono. Mae pobl yn dweud ein bod ni wedi gwneud gwaith gwych, ond ef ei hun a wnaeth yr ymdrech, dim ond y cyfle wnaethom ni ei roi iddo.”
Mae'r pâr wedi derbyn cefnogaeth Barnardo’s Cymru trwy gydol eu hamser yn maethu. Maent wedi bod ar lawer o gyrsiau hyfforddi ac wedi datblygu cysylltiadau agos gyda rhieni maeth eraill yng Ngogledd Cymru sy’n rhwydwaith cefnogi iddynt.
Ar hyn o bryd maent yn gofalu am ddau o blant. Dywedodd Tony: “Maen nhw’n blant hyfryd ac yn ein cadw ni ar flaenau ein traed. Rydym yn cael gymaint o hwyl gyda nhw. Byddwn yn sicr yn argymell maethu i bobl eraill. Does dim angen i chi gael cefndir fel fy un i, mae maethu yn ymwneud yn fawr â synnwyr cyffredin, rhoi’r amser a’r sylw i blant a mwynhau’r profiad. Mae cefnogaeth ar gael i chi ac rydych yn gwybod eich bod yn gwneud rhywbeth da.”
Mae Cathie yn gweithio rhan amser i hosbis leol a dywedodd: “Cefais fagwraeth wych ac roeddwn eisiau rhoi’r un profiad i blant eraill.
“Mae pob plentyn yn heriol ond cyn belled â’ch bod yn gosod trefn a chadw at y drefn honno, bydd y plant yn ymateb. Mae maethu’n golygu darparu lle diogel i’r plant, dangos cariad iddyn nhw a rhoi gymaint o help a chefnogaeth iddyn nhw ag y gallwch.
“Rydym o hyd yn dweud wrthyn nhw eu bod yn gallu siarad â ni am unrhyw beth. Rydym ni yno iddyn nhw. Pan fyddan nhw yn ein gadael ond yn gwneud amser i ddod draw neu ein ffonio i ddweud eu bod nhw’n ein caru ni, dyna’r wobr – ac maen nhw’n ein cadw ni’n ifanc!”
Mae Barnardo’s Cymru yn recriwtio rhieni maeth ar gyfer plant anos eu lleoli. Mae hyn yn cynnwys plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phlant ag anableddau.
Dywedodd Caroline O’Shaughnessy o Wasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo’s Cymru: “Mae plant mewn gofal yn aml wedi profi trawma megis esgeulustod a cham-drin, ond mae cael cartref sefydlog a llawn cariad yn gallu gwneud byd o wahaniaeth iddyn nhw,
“Rydym yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy’n meddwl eu bod yn gallu darparu un o’r cartrefi hynny. Rydym yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ddwys sy’n parhau trwy'r cyfnod maethu. Felly, os ydych yn credu bod maethu ar eich cyfer chi, cysylltwch â ni.”