Mae effeithiau negyddol carchariad rhieni ar blant a phobl ifanc yn cael ei ddogfennu’n gynyddol
Mae’r canfyddiadau yn cael eu cynnwys ym mholisi a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru, a’r agenda
Profiadau Plentyndod Niweidiol newydd.
Ar unrhyw adeg benodol, amcangyfrifir bod gan tua 200,000 o blant ar draws y DU llai o gyfleoedd bywyd, ac sydd yn wynebu mwy o risg o ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol eu hunain. Mae Prosiect Cytundeb Waliau Anweledig a ariennir gan y Loteri Fawr yn amcanu at sicrhau bod plant yr effeithir arnynt oherwydd bod eu rhieni yn y carchar yn cael eu clustnodi er mwyn derbyn cymorth i leihau effaith tymor byr a hirdymor profiadau niweidiol o’r fath.
Gan weithio’n agos â phlant, pobl ifanc, rhieni, ysgolion, cymorth cymunedol a’r ystâd carchardai ar draws De Cymru, datblygwyd Pecyn Cymorth Gwasanaeth Cytundeb Waliau Anweledig er mwyn:
• cynyddu hyder staff addysgu a staff ategol, a chynorthwyo teuluoedd yr effeithir arnynt oherwydd bod rhieni yn y carchar
• darparu adnoddau er mwyn galluogi cymorth effeithiol drwy ddull ysgol gyfan, hyrwyddo dinasyddiaeth a chreu amgylchedd ble mae gwahaniaethau yn cael eu cofleidio a stigma yn cael ei leihau
• darparu gwybodaeth ac offer i ysgolion er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael eu cydnabod a’u bod yn ymgysylltu’n effeithiol â’r dull Tîm o Gwmpas y Teulu oedd yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru wrth weithredu ei bolisi, gweithdrefn a chanllawiau.
Mae’r adnoddau yn y pecyn cymorth yn gydnaws â’r Cwricwlwm Cenedlaethol, er mwyn caniatáu i athrawon integreiddio’r cynlluniau sesiynau’n ddidrafferth i’w gwersi. Neu, gellir eu defnyddio yn ystod ABCh neu sesiynau un i un.
Download the kit below.