Meithrin teulu a newid bywyd
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn awyddus i fabwysiadu plentyn, gallwn ni helpu.
Yma yng Ngwasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, gallwn siarad â chi drwy'r broses fabwysiadu ac ateb eich holl gwestiynau.
Os byddwch yn mabwysiadu drwy ein gwasanaeth ni, byddwn yn rhoi'r holl gymorth emosiynol, ymarferol a chyfreithiol sydd ei angen arnoch i'ch helpu:
- i ddod o hyd i'r plentyn cywir
- i baratoi ar gyfer y broses fabwysiadu
- i deimlo eich bod yn cael cefnogaeth drwy gydol y broses ac yn y blynyddoedd i ddod
Cysylltu â ni
- llenwch ein ffurflen ar-lein syml
- ffoniwch ni ar 02920 493387
- e-bostiwch ni yn [email protected]
- ysgrifennwch atom yn Gwasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, Tŷ Britannia, Heol Van, Caerfilli, CF83 3GG.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am fabwysiadu gyda Barnardo’s, ewch i’n tudalen Mabwysiadu plentyn.
Darllen pellach
Mae ein datganiad o ddiben (gweler isod) yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am Wasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, a sut rydym yn sicrhau canlyniadau da i'r plant sydd yn ein gofal.