Rydyn ni'n credu y gallwch chi faethu
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn awyddus i faethu plentyn, gallwn ni helpu.
Yma yng Ngwasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, bydd ein tîm o weithwyr cymdeithasol ymroddedig yn eich cefnogi drwy gydol eich taith maethu.
Mae'r gwobrau'n enfawr. Mae gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn sy'n agored i niwed yn rhywbeth y byddwch chi’n ei gofio am byth.
Cysylltu â ni
Gallwn siarad â chi am y broses faethu ac ateb eich holl gwestiynau.
- llenwch ein ffurflen ar-lein syml
- ffoniwch ni ar 02920 493387
- e-bostiwch ni yn bcafs-south@barnardos.org.uk
- ewch i'n tudalen Facebook
- ysgrifennwch atom yn Gwasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd CF24 5TD
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am faethu gyda Barnardo’s, ewch i’n tudalen Maethu plentyn.
Darllen pellach
Mae ein datganiad o ddiben (gweler isod) yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am Wasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, a sut rydym yn sicrhau canlyniadau da i'r plant sydd yn ein gofal.