Datganiad Barnardo’s Cymru ar adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac ymateb Llywodraeth Cymru

Published on
12 July 2023

Mae Barnardo’s Cymru yn falch fod llawer o’n prif argymhellion wedi’u cynnwys yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ‘wasanaethau i blant â phrofiad o fod mewn gofal: edrych ar ddiwygio radical’, yn ogystal â’r ymateb dilynol gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni mor falch o’n rhieni, ein plant, ein pobl ifanc a’u teuluoedd am gyfrannu at y broses hon ac am rannu eu straeon, eu profiadau a’u safbwyntiau nhw. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am wrando. Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau’r bobl hynny yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu’r camau nesaf.

Rydyn ni’n falch iawn bod ein hargymhelliad wedi’i dderbyn yn rhannol, sef y dylai pob plentyn â phrofiad o fod mewn gofal gael cymorth therapiwtig ar gyfer iechyd meddwl. Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y fframweithiau a manylebau’r gwasanaeth - sy’n ceisio cefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc - yn blaenoriaethu anghenion unigryw plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl.

Rydyn ni’n falch bod yr angen am wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar wedi cael ei gydnabod a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yn rhannol yr argymhelliad i gyflwyno ein gwasanaethau arloesol a llwyddiannus, gan gynnwys y model ‘Babi a Fi’. Mae gennym ni dystiolaeth a gwerthusiad cadarn o ddylanwad y model hwn a byddem yn awyddus i rannu hyn â Llywodraeth Cymru fel sail ar gyfer cyflwyno’r model yn y dyfodol. Rydyn ni nawr yn galw am amserlen ac ymrwymiad i gyllid er mwyn cefnogi hyn.

Rydyn ni’n croesawu’r argymhelliad i roi hawl statudol i bob rhiant geni sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael cymorth cofleidiol dwys er mwyn lleihau’r risg y bydd plant yn cael eu tynnu o’u gofal. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn yn rhannol, rydyn ni o’r farn bod angen i’r cymorth hwn sicrhau bod rhieni geni sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael gafael ar gymorth sy’n seiliedig ar drawma o’r adeg cynharaf posibl, yn ogystal â rhoi eiriolaeth arbenigol i rieni.

Datblygiad pwysig hefyd yw’r ymrwymiad i fynd i’r afael ag annhegwch gofal gan berthnasau, fel yr argymhellwyd gennym yn ein tystiolaeth ysgrifenedig. Enghraifft dda yw ein gwasanaeth Teuluoedd Gyda’i Gilydd yn Sir Fynwy o bartneriaeth ag awdurdod lleol sydd wedi rhoi arferion da ar waith mewn perthynas â gofal gan berthnasau, a dylid ailadrodd yr arferion hynny ledled Cymru.

Byddem wedi hoffi gweld gwell cydnabyddiaeth i ddylanwad tlodi ar deuluoedd ac i’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi. Rydyn ni’n parhau i gael pryderon am ddylanwad amddifadedd ar deuluoedd sydd ar ffiniau gofal.

Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi ymrwymiadau clir o ran amserlenni ac adnoddau er mwyn sicrhau bod modd gweithredu llawer o’r argymhellion yn llawn.