Datganiad Cynllun Cyflawni’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Published on
19 June 2024

Mae Barnardo’s Cymru yn croesawu cyhoeddi Cynllun Cyflawni’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 – 27, gan gynnwys yr uchelgais i wella cymorth iechyd a llesiant, a lleihau nifer y bobl sy’n gadael y sector. 

Ar hyn o bryd, mae Barnardo's Cymru’n cynnal 60 a mwy o wasanaethau amrywiol ar hyd a lled Cymru, ac yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Bob blwyddyn, rydyn ni’n cefnogi mwy na 10,000 o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn rheolaidd. Rydyn ni’n darparu ystod eang o wasanaethau, sy’n amrywio o ddarparu ymyrraeth gynnar a chymorth i deuluoedd, i weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd y mae cam-drin a chamfanteisio wedi effeithio arnynt.   

Drwy’r gwaith hwn rydyn ni’n deall pwysigrwydd sicrhau bod y gweithlu’n cael cymorth i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.  

Mae’r cynllun cyflawni yn rhoi llawer o sylw i sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant ymarferwyr yn cael eu cefnogi, yn enwedig drwy wella adnoddau llesiant, adnewyddu’r fframwaith iechyd a llesiant, a datblygu arolwg cenedlaethol mwy manwl sy’n asesu hapusrwydd a gorbryder erbyn 2030 – ac rydyn ni’n croesawu hynny. 

Mae cynllun cyflawni’r gweithlu ar gyfer 2024-27 yn nodi cyfeiriad newydd ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar lesiant, hyfforddiant a chadw staff. Bydd hyn yn arwain at weithlu mwy gwydn a hyderus, ac yn sicrhau bod staff yn gallu cael cefnogaeth gyda’u llesiant eu hunain, tra maen nhw’n gwneud cymaint i bobl eraill.

Dywedodd Sarah Crawley

Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru a De-orllewin Lloegr

Rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud rhagor o waith i edrych ar ymestyn y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl i wirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl, ac rydyn ni’n credu y byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bawb sy’n gofalu. 

Byddem yn croesawu rhagor o fanylion ynglŷn â sut bydd y materion sy’n ymwneud â llwyth gwaith yn cael sylw. 

Rydyn ni’n falch o weld bod ymgysylltu â’r gweithlu wedi bod yn flaenoriaeth wrth ddatblygu’r cynllun cyflawni hwn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn parhau wrth i’r camau gweithredu gael eu rhoi ar waith.