Mae Barnardo’s Cymru yn croesawu drafft Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru.

Mae Barnardo’s Cymru yn croesawu drafft Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru a lansiwyd yr wythnos hon a’r camau a gymerwyd hyd yma, gan gynnwys yr ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd ac i gyflwyno bwndeli babanod, rhywbeth rydym wedi ymgyrchu drostynt.
Fodd bynnag, er ein bod yn gwerthfawrogi’r ffocws ar feysydd gan gynnwys cynyddu incwm teuluoedd, creu llwybrau rhag tlodi a chefnogi llesiant plant a theuluoedd, teimlwn nad oes gan y strategaeth ddigon o fanylion ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni.
Rydym yn falch bod lleisiau plant a phobl ifanc wedi bod yn ganolog i ddatblygu’r strategaeth yn ogystal â’r ymrwymiad i barhau â’r ymgysylltiad hwn. Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad yw’r strategaeth wedi manteisio ar y cyfle i fod yn llawer mwy uchelgeisiol i gefnogi’r plant a’r teuluoedd sydd fwyaf ei angen, fel y nododd Barnardo’s Cymru yn ein papur briffio diweddar ar effaith gynyddol tlodi a’r argyfwng costau byw ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.