Gofalwyr ifanc Merthyr i ganu yn y Royal Albert Hall

Published on
04 November 2021

Gofalwyr ifanc Merthyr i ganu yn y Royal Albert Hall 

Mae côr arbennig iawn o blant sy’n cyfuno canu â gofalu am eraill wedi cael ei her gerddorol fwyaf eto, sef perfformio gydag un o brif gerddorfeydd Prydain yn y Royal Albert Hall.

Côr Gofalwyr Ifanc Merthyr

Sefydlwyd Côr Gofalwyr Ifanc Merthyr gan Barnardo’s Cymru i ddarparu hwyl a chyfeillgarwch i blant a phobl ifanc sy’n aml ddim yn cael y cyfle i gymdeithasu oherwydd bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu am aelodau o’r teulu sy’n sâl neu’n anabl gartref.

Pan nad oeddynt yn gallu dod at ei gilydd wyneb yn wyneb oherwydd y pandemig, roedd Barnardo’s, gyda chymorth cyllid gan Artis Community, wedi trefnu sesiynau wythnosol dros Zoom dan arweiniad yr hyfforddwr canu, Cariann Rolls.

Cyn y pandemig roedden nhw wedi perfformio i Faer Merthyr ac yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a nawr, ar ôl dim ond dau gyfle i ymarfer wyneb yn wyneb, byddant yn ei chychwyn hi am Lundain i rannu llwyfan â'r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. 

Byddant yn westeion arbennig yng Nghyngerdd Movie Magic Cefnogwyr Ifanc Barnardo’s a fydd yn dod â channoedd o leisiau o ysgolion ledled Prydain ynghyd. Bydd y cyngerdd yn codi arian i gefnogi gwasanaethau Barnardo’s ar gyfer plant a theuluoedd agored i niwed a bydd y gynulleidfa’n cael gweld ffilm yn egluro cefndir y côr. Bydd rhai o bobl ifanc Merthyr hefyd yn cael eu cyfweld gan y darllenydd newyddion a Llywydd Barnardo’s, Natasha Kaplinsky.

Sefydlwyd y côr gan Geraldine Maddison, gweithiwr prosiect gyda Gofalwyr Ifanc Merthyr sy’n cael ei redeg gan Barnardo’s Cymru ar ran Cyngor Merthyr Tudful.

“Yn aml dydy ein pobl ifanc ddim yn cael y cyfle i roi cynnig ar lawer o bethau oherwydd eu bod yn gorfod helpu i ofalu am frawd, chwaer neu riant. Mae’n ymrwymiad mawr a gall fod yn anodd iawn ar brydiau, ond mae Gofalwyr Ifanc Merthyr yn rhoi cyfle iddynt gael seibiant o ofalu,” meddai Geraldine.

“Rydyn ni’n dechrau pob sesiwn gyda sgwrs llesiant ac mae’r bobl ifanc wir yn cefnogi ei gilydd pan fydd un ohonyn nhw wedi cael wythnos anodd. Mae gan bob un ohonyn nhw rywbeth yn gyffredin felly maen nhw’n deall ei gilydd pan nad yw eu ffrindiau ysgol yn gallu gwneud hynny efallai. Mae hynny wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod clo pan oedden nhw gartref 24 awr y dydd.

“Rydyn ni wedi bod yn ddyfeisgar iawn yn ystod y pandemig a phan oedden ni i gyd wedi cael llond bol, fe aethon ni ati i wisgo i fyny a chael sesiwn carioci hwyliog.”

Mae cyffro mawr ynghylch cyngerdd Movie Magic Barnardo's ar 9 Tachwedd. I lawer o’r bobl ifanc rhwng naw ac 17 oed, gan gynnwys Lianna Thomas, dyma fydd eu taith gyntaf i Lundain.

Mae Lianna, sy’n 11 oed, yn helpu i ofalu am ei mam a’i brawd, ac mae hi wedi bod yn aelod o’r côr ers iddo ddechrau tair blynedd yn ôl. Dywedodd: “Mae wedi agor y drws i gyfleoedd newydd i mi. Mae ein sesiynau’n amser hollol wahanol i weddill yr wythnos, rydw i wedi cael cyfle i roi cynnig ar rap hefyd. Rydw i wedi bod wrth fy modd yn cynnal cyngherddau ac rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd.

“Rydw i’n nerfus iawn am ganu yn y Royal Albert Hall ond mae’n gyfle enfawr.”

Ymunodd Angel Wills, sy’n 15 oed, â’r côr yn ystod y cyfnod clo a dim ond y sesiynau Zoom roedd hi wedi cael profiad ohonynt cyn cyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf i ymarfer caneuon ar gyfer y Royal Albert Hall.

Mae hi wedi perfformio yn y lleoliad o’r blaen fel aelod o grŵp dawns, ond hwn fydd ei chyngerdd cyntaf gyda Barnardo’s. Dywedodd Angel, sy’n gofalu am ei mam: “Mae’r côr yn wych ar gyfer magu hyder a gwneud ffrindiau newydd. Bydd canu mewn lleoliad mor fawr yn brofiad reit frawychus, ond rydw i’n edrych ymlaen yn arw ato hefyd.”

Bydd y corau cyfun yn perfformio caneuon o ffilmiau, yn amrywio o Double Trouble o'r ffilm Harry Potter a  chân Pharrel Williams, ‘Happy To Consider Yourself’ o'r sioe Oliver.

Dywedodd Geraldine: “Mae pawb yn llawn cyffro. Mae bod yn y côr wedi rhoi cyfleoedd gwych i’n pobl ifanc ac rydw i mor falch ohonyn nhw. Efallai mai yn Nhŷ Opera Sydney y byddwn ni’r flwyddyn nesaf!”

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.