Nifer y babanod sy’n mynd i ofal yng Nghasnewydd wedi haneru diolch i wasanaeth Babi a Fi Barnardo's
Mae gwasanaeth arloesol Barnardo’s Cymru wedi llwyddo i haneru nifer y babanod newydd-anedig sy’n cael eu rhoi mewn gofal yng Nghasnewydd.

Mae’r gwasanaeth Babi a Fi yn cefnogi darpar rieni sydd wedi colli plant i’r system gofal yn y gorffennol. Drwy eu helpu i wneud newidiadau sylweddol i’w bywydau a gwella eu sgiliau magu plant, mae Barnardo’s Cymru yn galluogi rhieni i fynd â’u babanod newydd-anedig adref yn ddiogel, yn hytrach na’u gweld yn cael eu rhoi mewn gofal gan y llysoedd.
Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, wedi cael ei ganmol yn dilyn ymchwil newydd gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Lancaster yn galw am fwy o wasanaethau o’r fath ar ôl datgelu y bydd un fam o bob pedair yn y DU, y mae eu babanod wedi cael eu rhoi mewn gofal, yn wynebu rhagor o achosion i dynnu eu plant oddi wrthynt mewn llys. Mae’r nifer yn codi i un o bob tair ymysg y mamau ieuengaf.
Mae’r ymchwil newydd yn dangos bod angen gwneud mwy i ledaenu’r arferion gorau, gan fod ystadegau cenedlaethol yn dal yn ystyfnig o uchel o ran y risg o dynnu plant oddi arnynt dro ar ôl tro, babanod fel arfer.
Mae’r Athro Karen Broadhurst, sydd wedi arwain yr ymchwil, wedi tynnu sylw at wasanaeth Babi a Fi Barnardo’s fel enghraifft wych o sut gall darparu cefnogaeth gynnar i rieni dorri’r cylch yn effeithiol. Mae hi’n credu y dylai pob rhiant agored i niwed gael mynediad at wasanaethau cymorth tebyg, lle bynnag y maent yn byw.
Dywedodd: “Mae menywod sy’n ddigon ffodus i gael cefnogaeth yn gallu newid eu bywydau. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol sydd dan bwysau yn ei chael yn anodd ymrwymo i wario’n gyson ar brosiectau o’r fath.
“Mae Babi a Fi yn dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fydd ardaloedd lleol yn gwneud y penderfyniadau buddsoddi cywir. Fodd bynnag, os ydym am weld gostyngiad yn yr ystadegau cenedlaethol ar gyfer achosion gofal yng Nghymru, mae angen i wasanaethau fel Babi a Fi fod ar gael ledled y wlad.”
Cymru sydd â’r ganran uchaf o blant sy’n derbyn gofal yn y DU ac mae’r niferoedd wedi codi i dros 7,000, cynnydd o 34% yn y 15 mlynedd diwethaf. Ond yng Nghasnewydd, bu gostyngiad o 48% yn nifer y camau gofal a gymerwyd ar enedigaeth ers i’r gwasanaeth Babi a Fi ddechrau yn 2019 ac mae 20 yn llai o fabanod wedi cael eu rhoi mewn gofal, o’i gymharu â’r ddwy flynedd cyn lansio’r gwasanaeth.
Mae pob babi sydd wedi mynd adref gyda’i fam fiolegol wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y 12 mis cyntaf.
Mae rhieni’n cael amrywiaeth eang o gefnogaeth yn dibynnu ar eu hanghenion unigol, gan gynnwys cymorth i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau tai addas. Maent hefyd yn mynychu sesiynau grŵp lle maent yn cael eu hannog i ddysgu sgiliau magu plant, meithrin perthynas â’u babanod cyn iddynt gael eu geni a datblygu amgylchedd cefnogol yn y cartref.
Mae llawer o rieni sydd wedi bod drwy system y llys o’r blaen yn teimlo’n unig a’u bod yn cael eu stigmateiddio. Gall tynnu plentyn oddi wrthynt achosi neu waethygu cyflyrau iechyd meddwl a dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Gall galar am golli plentyn effeithio ar famau, eu partneriaid a’u teuluoedd ehangach. Felly, mae cael cyfle i gwrdd â rhieni eraill sydd wedi cael profiadau tebyg hefyd wedi helpu llawer o famau.
Dywedodd Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru: “Rydyn ni’n credu y dylai’r lefel hon o gefnogaeth fod ar gael i deuluoedd ledled Cymru ac rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i gefnogi Babi a Fi a gwasanaethau eraill sy’n helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel.
“Mae angen cyllid sefydlog arnom ar gyfer gwasanaethau o’r fath fel y gellir datblygu partneriaethau arloesol rhwng y trydydd sector ac awdurdodau lleol. Mae costau enfawr ynghlwm wrth roi plentyn mewn gofal, yn emosiynol i’r rheini a’r plant ac yn ariannol i’r Wladwriaeth.
“Mae rhieni wedi dweud wrthym bod gwasanaethau yn y gorffennol yn aml wedi dangos diffyg tosturi atynt. Ond os ydynt yn cael cymorth ar sail trawma, maent yn fwy tebygol o allu goresgyn eu trawma yn y gorffennol a gwneud newidiadau yn eu bywydau a fydd o fudd i’w plant yn y dyfodol.”
Mae’r elusen yn galw am ddod o hyd yn gynt i famau sydd mewn perygl a chefnogaeth effeithiol i bawb y mae ei hangen arnynt mewn meysydd megis iechyd, tai ac eiriolaeth. Mae hefyd am weld gwell hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar yr effaith y mae rhoi plentyn mewn gofal yn ei chael ar rieni.
Stori Annie
“Doeddwn i ddim mewn perthynas iach. Roeddwn yn dioddef trais domestig ac yn cam-drin cyffuriau ac alcohol. Fe wnes i adael y berthynas a dod yn ôl dro ar ôl tro a chefais sawl perthynas debyg.
“Roeddwn yn rhoi fy anghenion yn gyntaf, ddim yn poeni bod fy mhlant yn gweld sut roeddwn yn byw. Roedd yn rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ymyrryd oherwydd y galwadau niferus am gam-drin domestig a chafodd fy mhlant eu tynnu oddi arnaf.
“Cefais fy annog gan fy ngweithiwr cymdeithasol i weithio gyda Babi a Fi pan oeddwn yn feichiog gyda fy mhlentyn ieuengaf, ond doeddwn i ddim eisiau siarad â neb. Byddai Emma, fy ngweithiwr Barnardo’s, yn dod i’r tŷ a fyddwn i ddim yn agor y drws, ond roedd hi’n dal ati ac un diwrnod fe wnes i sylweddoli bod yn rhaid i mi ddatrys pethau neu byddwn yn colli babi arall, a byddai hynny’n newid fy mywyd.
“Y prif emosiwn roeddwn yn ei deimlo ar y pryd oedd dicter, ond fe wnaeth yr alwad gyntaf honno gyda Emma newid fy agwedd. Mae ymuno â Babi a Fi wedi fy helpu i ddysgu sgiliau i ddelio â fy emosiynau a sefyllfaoedd heriol fel nad ydw i’n teimlo’n ddig drwy’r amser. Dechreuais newid a dydw i ddim wedi defnyddio cyffuriau nac alcohol ers dwy flynedd.
“Os ydw i wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd, rydw i wedi gallu gofyn am help. Er enghraifft, pan oedd gen i gyfarfod gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, daeth Laura o Babi a Fi i’m cefnogi. Pan oeddwn yn cael diwrnod gwael, roedden nhw yno i mi. Maen nhw wedi fy helpu’n fawr iawn drwy wahanol bethau.
“Mae’r gwasanaethau cymdeithasol wedi codi ofn arnaf erioed, ond dydy Babi a Fi ddim, maen nhw eisiau i mi gyflawni fy nodau mewn bywyd. Maen nhw wedi fy helpu i feithrin perthynas â fy ngweithiwr cymdeithasol ac i fod yn onest er mwyn iddyn nhw allu gweithio gyda mi.
“Mae Babi a Fi yn dweud wrthym am fod y rhieni y byddem am i’n plant (sydd mewn gofal) eu cael. Roeddwn yn gwybod y byddwn yn well person pe bawn yn delio â’r cyffuriau a’r alcohol. Erbyn hyn, mae fy merch gartref gyda mi, ac mae gen i berthynas wych gyda fy mhlant hŷn. Babi a Fi sydd wedi gwneud hynny.”
Mae’r enw wedi cael ei newid