Rhedwyr Barnardo’s yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran teuluoedd y Cymoedd

Published on
30 August 2023

Rhedwyr Barnardo’s yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran teuluoedd y Cymoedd

Mae gan dîm o weithwyr o’r elusen blant Barnardo’s Cymru reswm personol iawn dros redeg yn Hanner Marathon Caerdydd eleni.

Rhedwyr Barnardo’s

Mae’r tîm o wasanaeth Teuluoedd Cydnerth Rhondda Cynon Taf, nad yw’r rhan fwyaf ohonynt erioed wedi rhedeg mewn digwyddiad o’r blaen, yn gweld teuluoedd yn cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau byw bob dydd.

Dros y misoedd diwethaf, maen nhw wedi darparu popeth o dalebau bwyd i welyau a dillad gwely i deuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi ledled y Cymoedd. Roedden nhw’n gallu gwneud hynny oherwydd apêl argyfwng costau byw arbennig a sefydlwyd gan Barnardo’s mewn ymateb uniongyrchol i’r problemau roedd gweithwyr yn eu gweld yng ngwasanaethau’r elusen.

Drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd, maen nhw’n gobeithio y byddan nhw’n gallu codi mwy o arian i Barnardo’s i fynd i’r afael â’r anghenion cynyddol maen nhw’n eu gweld yn eu gwaith bob dydd. Mae’r anghenion hynny’n amrywio o rieni’n mynd heb brydau er mwyn i’w plant allu bwyta, i deuluoedd yn gorfod rhannu gwelyau neu gysgu ar y llawr.

Dywedodd Sarah Rowe, Rheolwr Gwasanaethau Plant gyda Barnardo’s Cymru: “Rydyn ni’n darparu gwasanaethau cymorth cynnar i tua 1,000 o deuluoedd ledled y Cymoedd bob blwyddyn. Rydyn ni wedi cael ein synnu gan nifer y cartrefi lle mae teuluoedd yn rhannu gwelyau, yn cysgu mewn gwelyau sydd wedi torri neu heb unrhyw welyau o gwbl, ac rydyn ni’n falch ein bod ni wedi gallu helpu.

“Mae angen help ar lawer o’n teuluoedd gydag eitemau bwyd ar ben yr hyn y gallant ei gael o fanciau bwyd. Rydyn ni hefyd yn cefnogi mamau sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi am resymau diogelwch ac sydd angen clytiau, llaeth a chyflenwadau babi sylfaenol eraill.”

Mae Sarah wedi rhedeg Marathon Llundain yn y gorffennol a sawl hanner marathon i godi arian i Barnardo’s. Dyma ei 10fed Hanner Marathon Caerdydd. Ond nid yw aelodau eraill o’r tîm Teuluoedd Cydnerth erioed wedi rhedeg o’r blaen. Maen nhw i gyd yn benderfynol o orffen y cwrs, hyd yn oed os ydynt yn cerdded y rhan fwyaf ohono.

Dywedodd Sarah: “Rydw i mor falch ohonyn nhw. Dydy rhedeg ddim yn dod yn naturiol iddyn nhw i gyd ac nid ydyn nhw wedi ymgymryd â her debyg o’r blaen. Bydd ymarfer, gweithio mewn swyddi prysur a chynnal eu bywydau personol yn her fawr. Ond nid oedd eiliad o betruso pan awgrymwyd ein bod yn cymryd rhan fel tîm ac maen nhw’n dangos gwir ymrwymiad.

“Mae ganddyn nhw gymaint o ofal ac empathi ac maen nhw’n gwneud cymaint dros y teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi.”

Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf ac mae’n darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar i deuluoedd sy’n cael trafferth gydag amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys trawma, iechyd meddwl gwael ac effaith cam-drin domestig. Mae’n helpu i feithrin gwytnwch emosiynol, yn darparu cymorth cyllidebu ac yn sicrhau bod gan deuluoedd fynediad at wasanaethau arbenigol fel therapyddion galwedigaethol a seicolegwyr.

Sefydlwyd Hanner Marathon Caerdydd yn wreiddiol 20 mlynedd yn ôl gan Barnardo’s, sy’n bartner elusennol yn y flwyddyn ben-blwydd eleni.

Os hoffech chi gefnogi’r tîm Teuluoedd Cydnerth, gallwch ddod o hyd i’w tudalen codi arian yn https://www.justgiving.com/fundraising/rfs-2023

Os hoffech redeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, Hydref 1, ar ran Barnardo’s, mae ychydig o lefydd ar gael o hyd. Byddwch yn cael fest redeg Barnado’s yn rhad ac am ddim a gwahoddiad VIP i’n parti ar ôl y ras, lle bydd tylino chwaraeon am ddim ar gael ochr yn ochr â lluniaeth a chacen i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu’r digwyddiad gan Barnardo’s. Gallwch chi gofrestru yn https://www.barnardos.org.uk/events/cardiff-half-marathon

DIWEDD

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.