Gweithio mewn partneriaeth i sicrhau canlyniadau gwell
Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i ddarparu gwasanaethau effeithiol iawn i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae partneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn golygu y gallwn ddarparu atebion arloesol a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae partneriaid Barnardo's yn elwa ar y canlynol:
- cefnogaeth elusen enwog a dylanwadol
- ein hangerdd a'n hymrwymiad i gefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed
- ein profiad o gyflawni contractau mawr a rheoli cadwyni cyflenwi
- cyflwyno gwasanaethau wedi'u teilwra'n lleol yn seiliedig ar fethodoleg ddibynadwy
- gwerth ychwanegol brand Barnardo's a chefnogaeth ehangach
Ein partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd
Yn 2014, fe wnaethom lunio partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd i ddatblygu gwasanaeth integredig cymorth i deuluoedd newydd.
Ers ei sefydlu mae'r gwasanaeth wedi rhagori ar ei holl dargedau ac wedi arbed arian drwy ymgysylltu'n effeithiol â phobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed yn y lle cywir ar yr adeg gywir.
Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddatblygu gwasanaeth cymorth i deuluoedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ataliol ac yn gost effeithiol. Dyma un o'r modelau cyffredinol mwyaf trawiadol i gael ei werthuso gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC) hyd yma.
Gallwch lawrlwytho’r gwerthusiad llawn o'n gwasanaeth integredig cymorth i deuluoedd gyda Chyngor Casnewydd ar waelod y dudalen hon.
Mae gennym bob amser ddiddordeb mewn gweithio gyda phartneriaid newydd ac rydym yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda sefydliadau sy'n gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc, rhanddeiliaid a chymunedau lleol.
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb gweithio mewn partneriaeth â ni, ffoniwch 020 8498 7717 neu lenwi’r ffurflen gyswllthon.