Polisi a dylanwadu yng Nghymru

Mae gennym brofiad uniongyrchol o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Rydym yn defnyddio’r profiad hwnnw i ymgyrchu dros newid ac i ddylanwadu ar y llywodraeth er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i fwy o blant.

Er mwyn newid bywydau, mae angen i ni newid cyfreithiau

Rydym yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac rydym yn dylanwadu ar y llywodraeth gan ddefnyddio ein hymchwil ein hunain, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i sicrhau newid.

Ar hyn o bryd mae ein hymgyrchoedd a'r hyn rydym yn ceisio dylanwadu arno yn canolbwyntio ar y canlynol:

Ein gwaith dylanwadu diweddar yn y Senedd

  • Ym mis Mai, lansiodd Barnardo's Cymru ein hadroddiad ar effaith gynyddol tlodi a'r argyfwng costau byw ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Yn yr adroddiad, fe wnaethom gynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau tymor byr, tymor canolig a thymor hir a allai fynd i’r afael â thlodi a’r argyfwng costau byw.
  • Aethom ati i ymgyrchu dros ymchwiliad i ddiwygio radical ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a’u plant, a rhoi tystiolaeth iddo.
  • Fe wnaethom dynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, fel ein model Babi a Fi, yn ogystal â’r angen am gymorth iechyd meddwl therapiwtig ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.  

Ein prif lwyddiannau yn 2021-22

  • Cynhaliodd Barnardo’s Cymru grwpiau ffocws i ddylanwadu ar bolisïau ar iechyd meddwl.
  • Fe wnaethom roi tystiolaeth i ymchwiliad yn ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a’u plant a threfnu ymweliadau ar gyfer ASau ac ASau.
  • Fe wnaethom hefyd gefnogi lansiad yr ymgyrch #StopioCosbiCorfforol yng Nghymru.

Cysylltu â ni

I drefnu cyfarfod, i siarad â rhywun am ein gwaith, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch ag Abigail Rees o Dîm Polisi Cymru ar [email protected]

Tystiolaeth ac ymgynghoriadau

Gweld ein papurau briffio diweddaraf ac ymatebion i’r ymgynghoriad

Ymchwil a phapurau briffio

Gweld ein hadroddiadau ymchwil diweddaraf

Newyddion yng Nghymru

Darllen ein newyddion diweddaraf a’n datganiadau i’r wasg

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.