A couple sitting in a restaurant smile for a selfie

Sut mae gofalwyr maeth yn helpu i baratoi plant i gael eu mabwysiadu

Pan fydd plant yn aros i gael eu mabwysiadu, maen nhw’n aml yn byw gyda rhieni maeth neu ofalwyr maeth sy’n darparu amgylchedd cariadus a diogel iddynt.

Mae’r bobl hyn yn chwarae rhan bwysig iawn o ran helpu plant i baratoi ar gyfer symud i’w cartref mabwysiadu parhaol.

Dyma oedd profiad Anamica a Prashan, a fabwysiadodd eu mab Neel drwom ni. Roedden nhw wedi cael profiad mor gadarnhaol gyda’r rhieni maeth a oedd yn gofalu amdano cyn iddo gael ei fabwysiadu fel eu bod wedi gofyn iddynt fod yn rhieni bedydd i Neel. 

Sut y bu i Anamica a Prashan benderfynu mabwysiadu 

Y tro cyntaf i Anamica fynd ar ddêt gyda Prashan, roedd hi wedi dweud wrtho fod ganddi ddiddordeb mewn mabwysiadu. Ar ôl priodi, fe wnaethon nhw benderfynu eu bod am ystyried mabwysiadu ochr yn ochr â cheisio am blentyn biolegol. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl canfod na fydden nhw’n gallu cael babi biolegol, roedden nhw’n gwybod mai mabwysiadu oedd y ffordd ymlaen iddyn nhw.

Bellach, mae Neel, sy’n blentyn bach dwyflwydd oed bywiog a siriol, wedi trawsnewid eu cartref a’u bywydau yn ne Cymru. Gwnaethpwyd y trefniadau mabwysiadu drwy ein Gwasanaeth Mabwysiadu a Maethu yng Nghymru 

A couple smile in a selfie
Mae mabwysiadu fel syrthio mewn cariad, mae’n tyfu dros amser. Cawsom ein denu at Neel yn syth ac mae cariad wedi tyfu o ddydd i ddydd.  Dim ond enwau roedden ni’n eu rhoi i ni ein hunain oedd mam a dad ar y dechrau ac yna, un diwrnod, fe newidiodd hynny. Roedd yn hyfryd.  Rwy’n dal i gofio’r diwrnod y gwnaeth Neel edrych arna’i ac roeddwn i’n gwybod ei fod o yn fy ngharu i hefyd.

Anamica

Y broses fabwysiadu

Dewisodd y cwpl fabwysiadu gyda ni ar ôl siarad ag Ellie, a ddaeth yn weithiwr cymdeithasol iddynt wedyn. “Roedd yna gynhesrwydd gwirioneddol yn y sgyrsiau gawson ni â hi o’r cychwyn cyntaf yn ogystal â’r wybodaeth a roddodd i ni. Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych yr holl amser, ac rydyn ni’n teimlo bod Barnardo’s wir yn hidio amdanom, rydyn ni’n gwybod eu bod nhw yno i ni.” 

Cymerodd y daith i fabwysiadu ddwy flynedd. “Rwy’n hoffi myfyrio ar fy mywyd a fy mhrofiadau ac fe wnes i fwynhau’r broses,” meddai Anamica.  

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cais i fabwysiadu, ewch i

Sut y gwnaeth gofalwyr maeth Neel helpu i’w baratoi ar gyfer ei fabwysiadu 

Cafodd Anamica a Prashan eu cyflwyno i Neel yn raddol, gan ddechrau gyda chipolwg arno ar draws y parc wrth iddo chwarae gyda’i rieni maeth. “Pan welsom ni o am y tro cyntaf yn ei fygi, roedd hi’n foment emosiynol iawn,” meddai Prashan.

“Cyn gynted ag yr oedden ni’n gwybod ei fod yn bendant yn dod atom ni, fe fuon ni wrthi fel lladd nadroedd am wythnos neu ddwy yn paentio ystafelloedd yn y tŷ a chael popeth yn barod cyn y cyfnod pontio o bythefnos, gan dreulio mwy o amser gydag ef fesul tipyn yng nghartref ei rieni maeth,” meddai. 

“Digwyddodd y newid oddi wrth ei rieni maeth yn araf deg ac roedd yn ymwybodol bod rhywbeth yn digwydd, ond roedd yn dal yn anodd iddo adael y cartref lle'r oedd o wedi treulio dwy flynedd gyntaf ei fywyd,” meddai Anamica.  

“Roedd ei ofalwyr maeth wedi’i baratoi’n dda ac fe wnaethom ni greu llyfr sain gyda lluniau o bob ystafell yn ein cartref. Roedd yn gallu pwyso botwm ar bob tudalen i’n clywed ni’n siarad ag ef, felly roedd yn adnabod y tŷ cyn iddo gyrraedd a phan aethom ag ef adref am y tro cyntaf, fe wnaeth o bwyntio at y tŷ a dweud, ‘Tŷ Dadi’.”  

“Roedd yn brofiad emosiynol a blinedig iawn pan gyrhaeddodd o gyntaf. Yn sydyn, roedd ein bywydau cyfan yn troi o amgylch Neel, ac fe wnes i sylweddoli mai dyma sut mae’n teimlo i fod yn fam.”  

Roedd y cwpl eisiau i rieni maeth Neel barhau i fod yn rhan o’i fywyd, felly fe wnaethon nhw ofyn iddyn nhw fod yn rhieni bedydd iddo.

Sut beth yw bywyd ar ôl mabwysiadu

Dywedodd Prashan, “Mae’n bleser ei wylio’n datblygu bob dydd a meddwl tybed beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddo. Wnes i erioed feddwl y byddai ei weld yn dysgu sut i gau botwm neu sut i ddweud rhyw air newydd yn cael cymaint o effaith arna i. Heddiw, dywedodd, ‘Mae hynny’n arbennig Dadi!’ a dydy o ddim hyd yn oed yn dair eto. 

“Mae hefyd yn blentyn bach mor hapus a chwareus, ac mae wrth ei fodd yn yr awyr agored, felly rydyn ni’n treulio llawer o amser yn y parc. Mae gen i rywun i chwarae pêl-droed ag ef nawr!”  

Canfu Anamica a Prashan fod mabwysiadu plentyn yn newid dramatig o ran ffordd o fyw. Dywedodd Anamica, “Roeddwn i’n arfer treulio fy mhenwythnosau yn gwylio ffilmiau ac yn gwylio un bennod ar ôl y llall o gyfresi teledu, ond erbyn hyn, y teulu sy’n bwysig bob penwythnos. Rydw i’n cael modd i fyw pan fydd Prashan wrthi’n ei gael yn barod i fynd i’w wely a finnau’n ei glywed yn piffian chwerthin. Rydw i wrth fy modd yn bod yn fam ac yn gweld Neel yn tyfu ac yn dysgu bob dydd, yn cicio pêl-droed ac yn chwarae gyda’i fysus a’i geir.

“Mae pobl yn dweud bod Neel mor lwcus, ond rydyn ni’n teimlo mai ni yw’r rhai lwcus oherwydd hebddo, fydden ni ddim wedi cael y profiad o fod yn rhieni. Fe fyddwn i’n dweud wrth unrhyw un sydd wir eisiau bod yn rhiant i ystyried mabwysiadu o ddifrif. Mae cymaint o blant allan yno sydd angen rhieni i’w caru,” meddai. 

An adoptive Dad and his son smile as they hold hands and walk down a street

Who can adopt?

We welcome people from all walks of life and backgrounds. There are so many things about you that can help make you a great adoptive parent, but there are some practical things you need too.

Two girls run through waves on a deserted beach

What it’s like adopting older children and siblings

Lindsey and her husband Phil didn’t set out to adopt two children at once, or to adopt an older child, but when they attended an activity day they met and fell for two little girls who would become their daughters.

Parents and children sit around a table smiling and doing a craft activity in a children's centre

How we’ll support you

We listen and respond to the needs of our adopters, which is why we offer a comprehensive preparation, training and support adoption programme, including access to support groups, adopter forums and adoptive family social events.

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.